Rhif y ddeiseb: P-06-1301

Teitl y ddeiseb: Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ceisiadau am daliad Gofal Cymdeithasol Ychwanegol wedi'i alinio â'r Cyflog Byw Gwirioneddol (taliad trethadwy o £1,498). Mae’n dweud bod y taliad ychwanegol “yn dangos ein hymrwymiad i wella statws, telerau ac amodau a llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.”

Wrth eithrio pob rôl hanfodol arall mewn cartref gofal, teimlwn fod y Llywodraeth wedi dibrisio ein cyfraniad, a’i bod yn disytyru’r darparwyr gofal hanfodol hyn y mae rheolwyr gofal yn cytuno eu bod yn gwbl angenrheidiol!

Dim ond ‘gweithwyr gofal, uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys' cymwys fydd yn cael y taliad hwn ac mae cydweithwyr yn yr un cartref sydd mewn swyddi arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, staff cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau yn cael eu heithrio’n benodol.

Fel y dywedodd rheolwr fy nghartref gofal i: “Os nad oes gen i bobl yn coginio bwyd yn y gegin sut y byddaf yn bwydo'r preswylwyr?”
Mae pawb yn gwybod bod gwaith gofal yn talu’n wael, felly mae'r rhan fwyaf sy'n gwneud y gwaith yn gwneud hynny oherwydd eu cariad a’u tosturi tuag at y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Er ei bod yn hen bryd cydnabod y swyddi gwych hyn, mae'n hynod annheg gwahaniaethu rhwng swyddi mewn lleoliad cartref gofal.

Helpwch i gefnogi staff ein cartrefi gofal!


1.        Y cefndir

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y taliad ychwanegol gofal cymdeithasolwedi'i alinio â'r cyflog byw gwirioneddol ym mis Chwefror 2022, a chyhoeddi canllawiau pellach ar y meini prawf cymhwysedd ym mis Mawrth (a gafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi).

Roedd y "codiad hwn i'r cyflog byw gwirioneddol" yn berthnasol i bawb sy'n gymwys i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol: gweithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, mewn gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant; Cynorthwywyr Personol a gaiff eu hariannu drwy Daliad Uniongyrchol; ac uwch staff a rheolwyr gofal mewn cartrefi gofal a gofal cartref. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r taliad yn cael ei wneud i tua 53,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

Roedd y canllawiau'n nodi y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad ym mis Mehefin 2022, a chaeodd y cynllun i bob cais newydd ar 30 Mehefin.

Yn ôl y canllawiau, ymhlith y swyddi nad ydynt yn gymwys i dderbyn y taliad mae:

Staff eraill cartrefi gofal a chanolfannau preswyl i deuluoedd nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Er enghraifft, staff arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau.

Pan gyhoeddwyd y cynllun ym mis Chwefror, mynegodd Fforwm Gofal Cymru bryderon yn y cyfryngau y byddai rhai staff ategol - fel cogyddion, gweithwyr cymorth gofal a glanhawyr - ar eu colled, a galwodd ar i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal i gael y taliad.

Nododd Llywodraeth Cymru fod dau gynllun blaenorol yn 2020 a 2021 wedi gwneud taliadau cydnabyddiaeth i wobrwyo ymdrechion yr holl staff gofal cymdeithasol yn ystod pandemig Covid.  Dywedodd bod y taliad ychwanegol hwn yn wahanol, oherwydd ei fod "wedi’i gyplysu’n benodol â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ac mae’n ffurfio rhan o’n hymrwymiad i wneud gwelliannau i ddatblygiad proffesiynol staff gofal cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref."

 

 

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn gwerthfawrogi'r siom a deimlir gan y deisebydd a staff eraill  cartrefi gofal nad ydynt wedi’u cynnwys yn hyn, a phwysleisiodd ei bod yn ymwybodol bod staff glanhau, staff arlwyo, a staff ategol eraill yn cynnig cefnogaeth werthfawr i staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog bod staff ategol wedi cael budd, sydd ond yn deg, o ddau gynllun blaenorol yn 2020 a 2021, a wnaeth daliadau o £500 a £735, i gydnabod a gwobrwyo staff yn ystod pandemig Covid. Pwysleisiodd fod y cynllun taliad ychwanegol hwn "yn wahanol iawn", gan ei fod yn cyd-fynd yn benodol â chyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol.

Nid yw staff ategol mewn cartrefi gofal wedi'u cynnwys wrth gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

While ancillary staff such as cooks and cleaners in care homes work in the social care sector and provide essential support that helps maintain the quality of provision,  they are not expected to deliver personal care services and are not required to register as social care professionals with Social Care Wales. This is why ancillary staff are not within the scope of this particular initiative. This is not intended to devalue the valuable contribution ancillary staff make.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.